Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw)

Mae Cadw yn gweithio i sicrhau amgylchedd hanesyddol hygyrch a ddiogelir yn dda i Gymru. Mae hefyd yn creu cyfleoedd i ddangos sut y gall diwylliant a threftadaeth gyfrannu at nodau cymdeithasol ac economaidd ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys datblygu sgiliau a chyfleoedd gwaith.

Historic England

Historic England yw'r corff cyhoeddus sy'n gofalu am amgylchedd hanesyddol Lloegr, gan roi cyngor arbenigol, helpu pobl i'w ddiogelu ac i ofalu amdano, a helpu'r cyhoedd i'w ddeall a'i fwynhau.

Àrainneachd Eachdraidheil Alba (Historic Environment Scotland)

Àrainneachd Eachdraidheil Alba yw'r corff cyhoeddus arweiniol a sefydlwyd i ymchwilio i amgylchedd hanesyddol yr Alban, gofalu amdano a'i hyrwyddo. Mae'n darparu arweiniad, hyfforddiant ac ymchwil dechnegol i amgylchedd adeiledig yr Alban, ac yn annog cymunedau a dysgwyr unigol i ymgysylltu â threftadaeth yr Alban.

 

CITB

Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yw CITB. Ei nod yw creu diwydiant adeiladu cwbl gymwysedig a phroffesiynol drwy amrywiaeth o gytundebau cydweithredol rhwng cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a'r llywodraeth. Mae nodi'r sgiliau sydd eu hangen, cefnogi darpariaeth hyfforddiant a sicrhau bod y system lefi/grant ac unrhyw fentrau eraill sy'n hyrwyddo hyfforddiant yn cael cymaint o effaith â phosibl, i gyd yn feysydd o bwys strategol i CITB.

 

Cyd-destun a Thelerau'r Cytundeb

Mae adeiladau traddodiadol (cyn 1919) yn cynrychioli cyfran sylweddol o'r diwydiant adeiladu ym Mhrydain Fawr ac yn gyfrifol am gryn dipyn o'r galw am waith gan gontractwyr.  Yn ôl ymchwil CITB:

 

·         Mae 6.5 miliwn o adeiladau traddodiadol (cyn 1919) yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

·         Gwaith atgyweirio a chynnal a chadw (tai ac adeiladau eraill) yw'r categori mwyaf unigol o waith adeiladu, gan gyfrif am 39% o allbwn y diwydiant adeiladu yn y DU yn 2014

·         Mae 44% o gontractwyr yn bwriadu cynyddu faint o waith a wnânt ar adeiladau traddodiadol (cyn 1919)

 

Bydd Cadw, CITB, Historic England a Àrainneachd Eachdraidheil Alba yn gweithio gyda'i gilydd, ar ffurf partneriaeth strategol, i ymdrin â'r sgiliau a'r hyfforddiant galwedigaethol sydd eu hangen o fewn y diwydiant adeiladu ym Mhrydain Fawr mewn perthynas â chadwraeth, atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau a strwythurau traddodiadol; a gwneud gwaith gwella priodol arnynt, gan gynnwys mesurau effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio dulliau adeiladu cynaliadwy.

 

Bydd y Cytundeb hwn yn helpu i sicrhau twf economaidd cynaliadwy Cymru, Lloegr a'r Alban yn y dyfodol, drwy sicrhau bod diwydiant adeiladu Prydain Fawr yn meddu ar y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau i sicrhau y gwneir defnydd parhaus o'r stoc adeiladu draddodiadol, er budd cymunedau ledled y tair gwlad.

 

Bydd y camau a gymerir o dan y Cytundeb hwn yn ceisio nodi ac ymdrin â phryderon cyffredin ar lefel Prydain Fawr, ond byddant hefyd yn ceisio rhannu arloesedd, arfer gorau a syniadau o bob gwlad er mwyn sicrhau bod diwydiant adeiladu Prydain Fawr ar ei ennill.

 

Cyflawnir canlyniadau sy'n gysylltiedig â'r Cytundeb Partneriaeth hwn drwy Gynlluniau Gweithredu blynyddol.  Bydd Cynllun Gweithredu ar gyfer Prydain Fawr sy'n cwmpasu'r tair gwlad.  Y bwriad yw datblygu Cynlluniau Gweithredu cenedlaethol unigol rhwng CITB a Cadw, Historic England a Àrainneachd Eachdraidheil Alba yn 2018 a 2019. Bydd y rhain yn ystyried gwahanol ddulliau a blaenoriaethau o ran hyfforddiant sgiliau, addysg a datblygu economaidd yn y tair gwlad.

 

Mae'r Cytundeb hwn yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Ionawr 2017 a 31 Rhagfyr 2019. Yn ystod chwarter olaf blwyddyn olaf y Cytundeb hwn (2019), cynhelir cyfarfod adolygu rhwng pawb a fydd yn asesu ac yn gwerthuso'r gweithdrefnau gwaith, cyflawni nodau ac amcanion y cytundeb hwn, ystyried meysydd newydd o ddiddordeb strategol a phennu mentrau newydd ar y cyd ar gyfer Cytundeb pellach.  Gall unrhyw barti ddod â'r Cytundeb hwn i ben drwy roi o leiaf dri mis o rybudd ysgrifenedig i'r partneriaid eraill.

 

Cyfarfodydd, Cyfathrebu ac Adolygu

Cynhelir Cyfarfod Partneriaeth Strategol bob chwe mis; yn bresennol fydd Cyfarwyddwr Partneriaeth Strategol arweiniol CITB dros dreftadaeth a'r uwch swyddogion priodol o'r asiantaethau treftadaeth. Gwahoddir staff eraill o sefydliadau partner fel sy'n briodol.

 

Bydd partneriaid yn cymryd rhan mewn trafodaethau rheolaidd rhwng y cyfarfodydd ffurfiol, fel sy'n briodol. Gellir cynnal cyfarfodydd ychwanegol fel sydd angen er mwyn datblygu prosiectau neu gamau gweithredu.

 

Statws

Er telerau unrhyw ddarpariaethau eraill yn y Cytundeb hwn, nid yw'r Cytundeb wedi'i rwymo mewn cyfraith ac ni fydd unrhyw beth ynddo yn gosod unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol ar unrhyw un o'r partïon o gwbl. Gall y Cytundeb hwn gael ei ddiwygio drwy gytundeb gan Cadw, CITB, Historic England a Àrainneachd Eachdraidheil Alba.

Meysydd o Ddiddordeb Strategol a Chydweithredu

At ddibenion y Cytundeb hwn nodwyd a chytunwyd ar y meysydd canlynol gan y partïon fel rhai o ddiddordeb cyffredin ac o bwys strategol.

 

Bydd Cadw, CITB, Historic England a Àrainneachd Eachdraidheil Alba yn cydweithio er mwyn:

 

§  Cynnwys gwybodaeth a sgiliau ar gyfer gweithio ar adeiladau traddodiadol (cyn 1919) mewn hyfforddiant adeiladu prif ffrwd.

 

§  Cefnogi'r gwaith o ddiwygio Addysg Bellach a phrentisiaethau er mwyn diwallu anghenion y sector adeiladu treftadaeth a rhoi hwb i nifer y prentisiaethau yn y sector treftadaeth.

 

§  Hyrwyddo buddiannau economaidd gweithlu cymwysedig a medrus, gyda thystiolaeth o'u hyfforddiant a'u cymwysterau i weithio ar adeiladau traddodiadol (cyn 1919), i'r llywodraeth, cleientiaid a chyflogwyr.

 

§  Cynyddu'r nifer sy'n cael hyfforddiant ar adeiladau traddodiadol (cyn 1919) sy'n arwain at ennill cymwysterau a chardiau CSCS, neu'r hyn sy'n cyfateb i hynny, er mwyn paru â sgiliau'r unigolyn.

 

§  Hyrwyddo'r angen am y wybodaeth a'r sgiliau cywir ar gyfer gwneud gwaith ôl-weithredol ym maes effeithlonrwydd ynni ac addasu i newid yn yr hinsawdd ar adeiladau traddodiadol (cyn 1919).

 

§  Helpu cyflogwyr i ddenu a chadw pobl drwy nodi cyfleoedd a llwybrau mynediad sy'n bodoli o fewn y sector adeiladu treftadaeth.

 

§  Datblygu a chynnal sail dystiolaeth gynhwysfawr ar anghenion sgiliau Prydain Fawr nawr ac yn y dyfodol, er mwyn llywio gweithgareddau ar y cyd a thargedu hyfforddiant.

 

§  Gwella'r broses o gyfathrebu â chyflogwyr, contractwyr a sefydliadau masnach er mwyn dangos sut mae cadwraeth, atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol a sgiliau traddodiadol yn berthnasol i'r diwydiant adeiladu ehangach.

 

Llofnodwyr ar ran y Sefydliadau Partner

Mark Noonan Cyfarwyddwr Cysylltiadau â Diwydiant, CITB

Jason ThomasDirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw) 

Chris Smith Cyfarwyddwr Cynllunio, Lloegr Hanesyddol

Dr David Mitchell Cyfarwyddwr Cadwraeth, Àrainneachd Eachdraidheil Alba